wardlogoheader
item2
item3a

> Denise Morris > Cyfarwyddwr Gweithredol

Mae Denise Morris, cyd sefydlwr y cwmni, yn arbenigwr adnoddau dynol a datblygu a chanddi gymwysterau proffesiynol, a thros 25 mlynedd o brofiad fel rheolwr ac hyfforddwr.

Arbenigedd Denise yw dadansoddi anghenion hyfforddi, a chynllunio a darparu rhaglenni datblygu ar gyfer gweithluoedd sy’n amrywio o dimau bychain o lai na 25 aelod i sefydliadau aml-leoliad gyda dros 4000 o gyflogedigion.

Yn hyfforddwr ac aseswr achrededig i’r Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM) ac yn aseswr NVQ, mae ei meysydd arbenigol yn cynnwys hyfforddiant datblygu rheoli, rheoli straen, rheoli perfformiad, systemau gwerthuso ac ymchwiliadau i achosion disgyblaethol, aflonyddwch a gwahaniaethu. Mae hefyd yn hyfforddwr cydraddoldeb ac anabledd sydd wedi’i chymeradwyo gan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Denise nifer fawr o gymwysterau HR gan gynnwys Tystysgrif Hyfforddi a Datblygu gan y Sefydliad Hyfforddi a Datblygu ac mae’n un o raddedigion y Sefydliad Rheoli Personél. Mae hefyd yn Gymrawd Siartredig i Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Ymysg diddordebau Denise mae mynd ar wyliau i leoliadau egsotig, darllen, gwrando ar ei iPod a nofio, pan yw pwysau gwaith yn caniatau.

item3a

Meddwl Ymlaen: “Dwi ddim yn credu y dylai hyfforddi a datblygu darfu ar weithgarwch dydd-i-ddydd sefydliad, felly rydym yn cynnig gwasanaeth 24 awr unigryw a hyblyg, sy’n benodol er mwyn diwallu dibenion busnes ein cleientiaid mewn modd cost-effeithiol. Dylid annog a chefnogi pob gweithiwr i gyrraedd ei lawn botensial, o lawr siop i lefel bwrdd rheoli.”

item3a
item2a
item2b
item2d
item2e
item2f
item3a
item4
teamfull
teamfade
DEN1
denfade1a